#
|
||||
|
Briff Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-740 Teitl y ddeiseb: Deiseb I Warchod Ein Stryd Fawr Testun y ddeiseb: Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn credu bod cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol Llywodraeth Cymru yn annigonol o ran diwallu anghenion busnesau yr effeithir arnynt gan ailbrisiadau diweddaraf adeiladau, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn o fesurau rhyddhad ardrethi parhaol i ysgafnhau'r pwysau ariannol ar fusnesau bychain. Bydd llawer o fusnesau bach yng Nghymru yn wynebu cau o ganlyniad i ardrethi busnes uwch oherwydd ailbrisio gorfodol. Bydd Rhyddhad Ardrethi Gwell i Fusnesau Bach ar gael yn Lloegr o Ebrill 2017 - gan ostwng cyfraddau a lliniaru effaith ailbrisio. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y rhyddhad hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru er mwyn diogelu ein Stryd Fawr. |
Cefndir
Mae ailbrisio ardrethi busnes fel arfer yn digwydd bob pum mlynedd, ac mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio annibynnol wedi bod yn cynnal ymarfer ailbrisio ardrethi busnes 2017 ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod ailbrisio yn niwtral o ran refeniw a'i fod yn ailddosbarthu atebolrwydd ardrethi busnes mewn ffordd sy'n adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo, yn hytrach na cheisio cynyddu'r refeniw a godir trwy ardrethi busnes. Ceir rhagor o fanylion am effaith ymarfer ailbrisio 2017 yn erthygl blog y Gwasanaeth Ymchwil o fis Rhagfyr 2016. Mae'r cynlluniau rhyddhad trosiannol a sefydlwyd mewn ymateb i'r ymarfer ailbrisio drafft 2017 gan Lywodraeth Cymru wedi'u hanelu at liniaru effaith negyddol yr ailbrisio ar fusnesau sydd wedi gweld cynnydd yn eu gwerth ardrethol.
O ran rhyddhad ardrethi busnesau bach, mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen, yn ymrwymo i 'dorri treth, gan arwain at filiau llai i 70,000 o fusnesau, a gostwng biliau ardrethi busnes i ddim ar gyfer hanner y cwmnïau cymwys.' O dan gynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach presennol Llywodraeth Cymru, bydd eiddo busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100% a'r rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad ar sail lleihau'n raddol o 100% i sero.
Mae'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn Lloegr ar hyn o bryd yn defnyddio'r un ystod o ran gwerth ardrethol â'r cynllun yng Nghymru. Fodd bynnag, bydd yn cael ei ehangu o Ebrill 2017 fel bod eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 yn cael rhyddhad o 100% a'r rhai sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £15,000 yn cael rhyddhad ar sail lleihau'n raddol o 100% i sero. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau gweithredol rhwng y cynlluniau yng Nghymru a Lloegr. Yn Lloegr, os oes gan fusnes fwy nag un eiddo, gall dderbyn rhyddhad ardrethi busnes bach ar y prif eiddo yn unig os yw'r gwerth ardrethol yn llai na £2,600 ond yng Nghymru nid oes cyfyngiad ar nifer yr eiddo bach y gall busnes gael rhyddhad arnynt. Mae lluosydd busnesau bach hefyd yn Lloegr, sy'n golygu bod busnesau bach yn talu llai o geiniogau yn y bunt mewn ardrethi busnes na busnesau mwy. Mae'r busnesau mwy yn talu lluosydd safonol sydd wedi ei osod ar lefel, sy'n rhannol yn ariannu cost y lluosydd busnesau bach. Bydd y trothwy gwerth ardrethol ar gyfer y lluosydd busnesau bach hefyd yn cael ei gynyddu o fis Ebrill 2017 er mwyn i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o hyd at £51,000 yn talu'r lluosydd busnesau bach.
Roedd yr adroddiad Datganoli Ardrethi Busnes i Gymru a gynhyrchwyd gan y Panel Ardrethi Busnes i Lywodraeth flaenorol Cymru yn amcangyfrif y byddai cynyddu'r trothwyon rhyddhad ardrethi busnesau bach i'r lefel a fydd ar waith yn Lloegr yn costio £44 miliwn ychwanegol y flwyddyn ariannol.
Mae cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo mwy na 70 y cant o safleoedd busnes yng Nghymru, y mae dros hanner ohonynt yn talu dim ardrethi o gwbl. Yn Lloegr, bydd hanner yr holl eiddo busnes yn cael rhywfaint o gymorth gan y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach a/neu'r lluosydd busnesau bach o fis Ebrill 2017.
Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru
Mae'r dystiolaeth ysgrifenedig i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad a gyflwynwyd ym mis Hydref 2016 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn nodi ei flaenoriaethau ar ardrethi busnes ar gyfer tymor y Cynulliad hwn. Mae'r rhain yn cynnwys y flaenoriaeth gyntaf, sef darparu sicrwydd a diogelwch i fusnesau bach i'w galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn hyderus, ac i adolygu'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach cyfredol.
Ym mis Medi 2016 cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach yn cael ei ymestyn hyd at 31 Mawrth 2018. Dywedodd hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach parhaol o 2018-19 ymlaen yn dilyn adolygiad o'r cynllun presennol.
Mae dau ryddhad trosiannol wedi eu cyhoeddi dros y misoedd diwethaf i liniaru effaith yr ailbrisio ar fusnesau y mae wedi effeithio'n negyddol arnynt. Bydd y cynllun cyntaf, a gyhoeddwyd ym Medi 2016 ac a gymeradwywyd yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr 2016, yn darparu £10 miliwn o gyllid, a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Bydd busnesau a chanddynt safleoedd ar hyn o bryd sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000 ac sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach yn 2016-17, ond a fydd yn cael llai o ryddhad neu ddim rhyddhad yn 2017-18 oherwydd y cynnydd yng ngwerth ardrethol eu heiddo, yn elwa ar y cynllun hwn. Bydd y rhyddhad trosiannol arfaethedig yn lledaenu'r cynnydd mewn rhwymedigaeth mewn perthynas ag ardrethi busnes dros gyfnod o dair blynedd.
Yn dilyn hyn, ym mis Rhagfyr 2016 cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol fod £10 miliwn ychwanegol mewn rhyddhad trosiannol yn cael ei ddarparu yn 2017-18, wedi'i thargedu at drethdalwyr y stryd fawr fel siopau, tafarndai a chaffis, gan gynnwys y rhai sydd wedi gweld eu hardrethi yn cynyddu'n sylweddol yn sgil ymarfer ailbrisio ardrethi busnes 2017.
Camau Gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cynhaliodd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad ymchwiliad undydd i ardrethi busnes ym mis Hydref 2016, a chynhyrchwyd adroddiad gyda phum argymhelliad i Lywodraeth Cymru. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i hyn ym mis Ionawr 2017, gan dderbyn pob un o'r argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor. Mae'r prif argymhelliad sy'n ymwneud â'r ddeiseb hon yn ymwneud â gwella tryloywder a chysondeb ardrethi busnes, a oedd yn nodi safbwyntiau gwahanol y Ffederasiwn Busnesau Bach a Llywodraeth Cymru ar p'un a yw parhad y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach presennol mewn gwirionedd yn doriad mewn treth.
Cafwyd hefyd nifer o ddadleuon diweddar yn y Cynulliad ar ardrethi busnes, yn canolbwyntio ar faterion gan gynnwys rhyddhad ardrethi busnesau bach, rhyddhad trosiannol a diwygio ehangach o ran ardrethi busnes. Cynhaliwyd dadleuon ar ryddhad ardrethi busnes a diwygio ar 23 Tachwedd 2016 , materion ardrethi busnes sy'n effeithio ar fusnesau bach ar 30 Tachwedd 2016, a'r rheoliadau yn cymeradwyo rhyddhad trosiannol ar 13 Rhagfyr 2016.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol. |